Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Prentisiaethau yng Nghymru 2017

Diben

Nod yr Ymchwiliad hwn yw rhoi cyfle i'r Pwyllgor wneud gwaith dilynol ar faterion sy'n ymwneud â Phrentisiaethau. Codwyd rhai o'r materion hyn yn ystod yr Ymchwiliad i'r Ardoll Brentisiaethau a gynhaliwyd yn ddiweddar ond nid oeddent yn gysylltiedig â'r Ardoll Brentisiaethau yn uniongyrchol.

Methodoleg

Trefnodd y timau allgymorth ac ymgysylltu â phobl ifanc weithdai, cyfweliadau ac ymweliadau ar gyfer Aelodau'r Pwyllgor i gasglu sylwadau prentisiaid, a'r rhai nad ydynt yn  brentisiaid, ynghylch agweddau penodol ar gael mynediad at brentisiaethau a gwybodaeth amdanynt. Y nod oedd targedu prentisiaid ar wahanol lefelau, yn ogystal â'r rhai nad ydynt yn brentisiaid, siaradwyr Cymraeg, a grwpiau o bobl sydd ag anabledd, a oedd hefyd yn cynnwys dynion a benywod o wahanol oedrannau.

Cynhaliwyd gweithdai gyda Hefin David AC a Fforwm Ieuenctid Caerffili, Grŵp Ieuenctid Afasic a Deffo Cymru. Gwnaeth y tîm allgymorth gynnal cyfweliadau â phrentisiaid a'r rhai nad ydynt yn brentisiaid yn y Cynulliad Cenedlaethol, Fforwm Ieuenctid Caerffili, Grŵp Ieuenctid Afasic a Deffo Cymru. Yn olaf, ymwelodd Russell George AC, Hannah Blythyn AC, Hefin David AC, Vikki Howells AC a Mark Isherwood AC â phrentisiaid yn BT a phobl ifanc nad oeddent yn brentisiaid yn Ymddiriedolaeth y Tywysog yng Nghymru.

Sylwadau/Argymhellion a wnaed gan y bobl ifanc a gymerodd ran yn y cyfweliadau a'r gweithdai.

Cyngor a Chanllawiau

·Mae pobl ifanc yn ei chael yn anodd i gael gafael ar wybodaeth am brentisiaethau, nid ydynt yn gwybod lle gallant ddod o hyd iddi.

·Nid yw gwefan Gyrfa Cymru yn cael ei hysbysebu yn dda. Nid oedd pobl ifanc yn gwybod amdani neu roeddent yn cael anhawster wrth ei defnyddio. Roedd yn araf, ac yn anodd ei llywio; roedd problemau wrth lwytho CVs ac nid oedd y gwasanaeth Paru Prentisiaethau yn ymdopi'n dda wrth wneud rhai chwiliadau, yn ôl ardaloedd daearyddol er enghraifft.

·Roedd pobl ifanc o'r farn bod y cyngor gyrfaol yn yr ysgol wedi ei anelu at y rhai a fyddai'n dilyn llwybr academaidd wrth fynd ymlaen i sefydliadau addysg bellach ac uwch; awgrymodd rhai pobl ifanc nad oedd yr ysgolion ond yn canolbwyntio ar ddisgyblion a oedd wedi llwyddo'n academaidd ac a allai gyfrannu at ystadegau cyrhaeddiad yr ysgol. Nid oedd cyngor ac arweiniad ar gyfer prentisiaethau ar gael yn gyffredinol neu roeddent yn annigonol.

·Roedd pobl ifanc yn credu y dylai cyngor gyrfaol a gwybodaeth am brentisiaethau ddigwydd cyn iddynt ddewis eu hopsiynau ym mlwyddyn 9, ac awgrymodd rhai y dylai dechrau yn ystod yr ysgol gynradd.

·Nododd pobl ifanc eu teulu a'u ffrindiau fel y prif ddylanwad arnynt. Oni bai am eu rhieni/brodyr a chwiorydd ni fyddai llawer wedi cael gwybod am brentisiaethau. Roedd hyn naill ai'n dylanwadu ar eu penderfyniad i ymgeisio am brentisiaeth neu roedd yn eu gwneud yn ymwybodol o'r stigma ynghylch prentisiaethau.

Rhwystrau:

·Roedd pobl ifanc o'r farn nad oedd digon o gefnogaeth i brentisiaid ac nad oeddent yn fyfyrwyr nac yn weithwyr ychwaith. Roedd rhai'n credu y byddai'n fuddiol iddynt fod yn rhan o undeb y myfyriwr er mwyn cael y gefnogaeth a'r manteision sydd ar gael i fyfyrwyr - cyfeiriwyd at enghreifftiau fel cael mynediad at gwnsela profedigaeth a chymorth iechyd meddwl.

·Nodwyd stereoteipio ar sail rhyw fel rhwystr posibl. Roedd llawer o'r farn bod peirianneg, mecaneg a phrentisiaethau sy'n seiliedig ar wyddoniaeth wedi'u hanelu at ddynion a bod hyn yn rhwystr i fenywod. Yn yr un modd, roedd dynion hefyd o'r farn bod rhai prentisiaethau wedi'u hanelu at ferched ac y byddai pobl yn 'chwerthin am eu pennau' pe byddent yn gwneud prentisiaeth mewn trin gwallt er enghraifft.

·Mae angen gwneud rhagor  o waith hyrwyddo drwy ddefnyddio cynlluniau STEM. Mae gan BT Llysgenhadon STEM, ac maent yn cynnwys prentisiaid benywaidd yn y gwaith o hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer merched. 

·Roedd gan bobl ifanc deimladau cryf ynghylch cyflog prentisiaid ac roeddent o'r farn ei fod yn rhwystr i bobl ifanc. Cyfeiriodd rhai at eu cyflog fel 'llafur caethion' neu 'lafur rhad'. Tynnodd un prentis yn y Cynulliad sylw at fanteision ennill y cyflog byw, esboniodd sut roedd yn gwneud iddi deimlo ei bod ar yr un lefel â'i chydweithwyr ac roedd yn ei galluogi i dalu am gostau teithio ac i brynu dillad. Tynnodd pobl ifanc sylw at y ffaith nad oedd ganddynt fawr ddim arian dros ben o'u cyflog sylfaenol, ar ôl iddynt dalu'r costau bob dydd ar gyfer eu gwaith.

·Nid oedd rhai pobl ifanc yn gwybod am y dilyniant posibl drwy wneud prentisiaeth a'r cymwysterau y gallent eu hennill. O ganlyniad i hyn, roedd rhai pobl ifanc yn dewis addysg bellach ac uwch yn hytrach na gwneud prentisiaeth.

 

Agweddau cadarnhaol ar brentisiaeth:

·Roedd prentisiaid o'r farn y gallent ddysgu crefft a datblygu gyrfa wrth iddynt gael cyflog ar yr un pryd.

·Roedd llawer yn methu â gweld addysg bellach ac uwch fel opsiwn oherwydd y profiad a gawsant yn yr ysgol, y ddyled sy'n gysylltiedig ag addysg uwch, ac nad oedd unrhyw sicrwydd cael gwaith wedyn.

·Roedd llawer yn gwerthfawrogi'r dilyniant a oedd ar gael er mwyn iddynt fynd trwy'r camau a'r lefelau, a'r gefnogaeth sydd ar gael gan gydweithwyr a rheolwyr er mwyn cyflawni hynny.

·Roedd prentisiaid yn gwerthfawrogi'r cyfleodd i gael profiad gwaith mewn adrannau eraill.

·Roedd rhai prentisiaid yn deall y cyfle a'r manteision o ran gwneud gradd atodol; drwy wneud prentisiaeth yn gyntaf, ac wedyn gwneud gradd y telir amdano gan eu cyflogwr. Roed hyn yn cael gwared ar y rhwystr o’r ddyled y mae myfyrwyr yn ei hwynebu, ac roedd yn fodd iddynt fanteisio i'r eithaf ar y ddau opsiwn wrth gael profiad a gradd.

·Ar wahân i un unigolyn, roedd pob prentis wedi cael profiad da wrth wneud prentisiaeth. Roedd gan un person ifanc dau frawd a oedd hefyd yn gwneud prentisiaethau.

·Roedd y broses ymgeisio am brentisiaeth yn dda. Gwnaed yr holl broses ar-lein ac roedd yn syml.

·Pwysleisiodd un prentis fanteision gwneud ei phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, gan esbonio ei bod yn rhoi rhagor o gyfleoedd gwaith iddi ar gyfer y dyfodol.

 

 

Sylwadau a wnaed gan bobl ifanc ag anableddau.

·Ni chynhigiwyd unrhyw gefnogaeth ychwanegol i'r prentis gan ei goleg, ond rhoddwyd cymorth ychwanegol iddo gan ei gyflogwr, roedd y cymorth hwn yn wirfoddol ac nid oedd yn rhan o'r rhaglen brentisiaeth.

·Credai'r prentis fod ei anabledd (roedd yn drwm ei glyw) yn rhwystr gwirioneddol i gael prentisiaeth. Nid yw llawer o gyflogwyr yn gwybod sut i gefnogi pobl ag anableddau ac "nid ydynt yn barod i gymryd y risg o gyflogi person anabl".

· Mae cyflogwyr o fewn y byd diwydiant a masnach o'r farn bod perygl os cyflogir pobl sy'n drwm eu clyw; eglurodd y prentis, "os bydd rhywbeth yn disgyn o'r nenfwd, ni allant weiddi arnoch chi i'ch rhybuddio".

Awgrymiadau a chwestiynau ar gyfer Llywodraeth Cymru:

·Mae angen rhagor o waith cyhoeddi a hyrwyddo prentisiaethau.

·Rhagor o wybodaeth am brentisiaethau ar gyfer rhieni.

·Bu cynnydd o ran hyrwyddo prentisiaethau ar y cyfryngau cymdeithasol, ond mae angen gwella hyn. Mae'n debyg mai facebook yw'r platfform cyfryngau cymdeithasol gorau i'w dargedu.

·Gallai Gyrfa Cymru wneud rhai fideos YouTube i ddangos yr amrywiaeth o brentisiaethau sydd ar gael ledled Cymru, a gellid dangos y rhain mewn ysgolion a'u hysbysebu ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol.

·Gwnewch yn siŵr bod myfyrwyr yn cael gwybod am yr opsiynau mewn ysgolion a bod disgyblion yn cael y wybodaeth cyn blwyddyn 9.

·Hyrwyddo ynglŷn â beth yw prentisiaeth, y gwahanol rai sydd ar gael, a'r hyn sydd ei angen i wneud prentisiaeth - nid oes angen i bawb gael pump TGAU ac yn y blaen. 

·Rhagor o wybodaeth am brentisiaethau uwch a'r dilyniant sydd ar gael.

·Digwyddiadau ar gyfer prentisiaethau, sy'n debyg i'r ffeiriau swyddi y mae'r prifysgolion yn eu cynnal, lle gall busnesau hyrwyddo eu cynlluniau ar gyfer prentisiaethau.